#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-739

Teitl y ddeiseb: Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Mudiad Meithrin, i ailystyried penderfyniad andwyol y llywodraeth ddiwethaf i ddiddymu prosiect TWF. Yn benodol, rwy'n galw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys i:

§    wrthdroi'r penderfyniad o dorri £200,000 i’r prosiect sy’n olynu TWF

§    adfer parhad o’r cymorth yr oedd TWF yn ei gynnig a oedd yn canolbwyntio ar drosglwyddiad iaith a chefnogi babanod a rhieni newydd yn genedlaethol, yn hytrach nag yn dameidiol. Byddai hyn yn golygu adfer swyddi i swyddogion gyda phresenoldeb yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam

§    sicrhau cyllid ar gyfer gweithgareddau hybu'r Gymraeg i rieni sydd â chysylltiadau â gwasanaethau megis Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden, gan gynnwys gweithgareddau sy’n rhoi cymorth i iechyd meddwl ôl-enedigol hefyd.

 

Cefndir

Yn wreiddiol, roedd Twf - Cymraeg o'r Crud (neu dwy iaith o'r diwrnod cyntaf yn Saesneg) yn gynllun peilot a ariannwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y teuluoedd dwyieithog sy'n trosglwyddo'r iaith Gymraeg i'w plant. Ffocws 'Twf' oedd tynnu sylw rhieni newydd, darpar rieni a'r boblogaeth yn gyffredinol at werth y Gymraeg a dwyieithrwydd. Prif gynulleidfa darged 'Twf' oedd teuluoedd ieithoedd cymysg lle roedd dim ond un rhiant yn siarad Cymraeg.

Ar ôl gwerthuso’r cynllun peilot, gwelwyd ei fod yn gynllun effeithiol, a chafodd ei lansio i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2002. Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o'r cynllun rhwng mis Ebrill 2005 a mis Mawrth 2008 i ddeall effaith y fenter yn y tymor hir. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion eang, gan gynnwys yr angen i gynhyrchu canllawiau clir i fydwragedd ac ymwelwyr iechyd ynghylch sut i gyflwyno 'Twf' i rieni, ac i ymestyn ei weithgarwch mewn canolfannau teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig.   

 Yn Adroddiad Blynyddol Strategaeth Iaith Gymraeg 2014-15 Llywodraeth Cymru disgrifiwyd 'Twf' fel y 'prif gynllun' ym maes annog y defnydd o'r Gymraeg yn y cartref. Cafodd ei weithredu ar draws gogledd a de-orllewin Cymru yn bennaf, er mwyn annog rhieni neu ofalwyr sy'n siarad Cymraeg i drosglwyddo'r iaith i'w plant.

Ym mis Mawrth 2016, dywedwyd fod y cynllun i gael ei ddisodli, ac ym mis Ebrill 2016 lansiodd Llywodraeth Cymru ei olynydd, 'Cymraeg i Blant'.

 

Gwrthdroi'r penderfyniad o dorri £200,000 i’r prosiect sy’n olynu TWF

Gwerth y contract 'Cymraeg i Blant', sef olynydd 'Twf' yw £500,000 y flwyddyn. Dyfarnwyd y contract i Mudiad Meithrin a fydd yn darparu gwasanaethau 'Cymraeg i Blant' ar lefel leol. Ym mis Gorffennaf 2016, dywedodd Golwg 360 (ar gael yn Gymraeg yn unig) fod gan y cynllun newydd, Cymraeg i Blant, gyllideb o £200,000 yn llai na'i ragflaenydd 'Twf'.

Mae'r llythyr gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn nodi na ellir “cymharu’r” cynlluniau hen a newydd “yn uniongyrchol", gan fod 'Twf' yn cynnwys rôl o weithio gyda phartneriaid eraill ar lefel genedlaethol – swyddogion Llywodraeth Cymru sydd bellach yn gyfrifol am yr elfen hon, yn ôl y Gweinidog. Mae Adroddiad Blynyddol Strategaeth Iaith Gymraeg 2015-16  Llywodraeth Cymru yn datgan y canlynol am y cynllun newydd, 'Cymraeg i Blant’:

Rheolir y cynllun ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru. Bydd y Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith hyrwyddo cenedlaethol trwy nifer o bartneriaid, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, tra bod y Mudiad yn cynnal gweithgareddau ar lefel leol.

Yn ogystal â'r amser a dreulir gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r GIG a phartneriaid cenedlaethol eraill, mae'r Gweinidog yn datgan yn ei lythyr bod Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi "£130,000 eleni i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg".

Adfer parhad o’r cymorth yr oedd TWF yn ei gynnig

Fel yr adroddwyd, nid oedd 'Twf' yn gweithredu ar lefel genedlaethol. Roedd swyddogion Twf yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol yng Nghymru, gan weithredu ar draws 12 ardal awdurdod lleol. Dywedir bod swyddogion Cymraeg i Blant yn gweithio ar draws 14 ardal awdurdod lleol, a bod amryw o ffynonellau data wedi cael eu defnyddio i arwain y broses o ddewis yr ardaloedd lle y bydd swyddogion yn gweithio.

Nid yw'n glir o'r wybodaeth gyfredol, fodd bynnag, ym mha ardaloedd awdurdod lleol y mae swyddogion 'Cymraeg i Blant' ar hyn o bryd yn gweithio, ac a yw presenoldeb wedi'i gynnal o fewn yr ardaloedd awdurdod lleol fel y nodwyd gan y deisebydd.

Sicrhau cyllid ar gyfer gweithgareddau hybu'r Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer nifer o sefydliadau, prosiectau a chynlluniau i gefnogi’r iaith Gymraeg. Ar gyfer 2017-18, dyrannwyd cyfanswm o £36.195 miliwn ar gyfer yr iaith Gymraeg yng Nghyllideb Derfynol 2017-18. O'r swm hwn, dyrannwyd £29.231 miliwn i Gymraeg mewn Addysg, a dyrannwyd £6.964 miliwn i ariannu sefydliadau fel:

·         Mentrau Iaith;

·         Yr Eisteddfod Genedlaethol ac

·         Urdd Gobaith Cymru

ynghyd â chynlluniau a mentrau fel:

·         Papurau Bro; a

·         Grantiau Technoleg a Chyfryngau Digidol

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o fanteision addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o'r rhaglen 'Cymraeg i Blant'. Ers i'r rhaglen newydd ddechrau ym mis Ebrill 2016, dywedir bod rhyw 8,000 o blant wedi bod mewn sesiwn 'Cymraeg i Blant' yn barod.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.